Marchnad Ffermwyr
Aberystwyth

Marchnad Nesaf
Dydd Sadwrn 20fed o Ebrill 2024
Yr Hen Depo 10yb

Marchnadoedd 2024
Dydd Sadwrn 10yb

Ionawr   Chwefror   Mawrth
20   3 a 17   2 a 16
Ebrill   Mai   Mehefin
6 a 20   4 a 18   1 a 15
Gorffennaf   Awst   Medi
6 a 20   3 a 17   7 a 21
Hydref   Tachwedd   Rhagfyr
5 a 19   2 a 16   7 a 21

Croeso i Farchnad Ffermwyr Aberystwyth.

Lansiwyd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ym mis Mai 2000 ac mae’n parhau i fod yn llwyddiannus gyda 30 o stondinau yno, y dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd Sadwrn o bob mis.

Cysylltwch â Ni

Cydlynir Marchnad Fferm Aberystwyth trwy Cyngor Sir Ceredigion.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Sara Beechey, Chydlynydd gwyliau bwyd a diod ar:

Ffôn: 01545 570881
Ebost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

Amdanom Ni

Lansiwyd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ym mis Mai 2000 ac mae’n parhau i fod yn llwyddiannus yn cynnal hyd at 30 o stondinau bob dydd Sadwrn cyntaf a thrydydd dydd Sadwrn yn y mis. 

Yn y farchnad fe welwch lysiau rhanbarthol a thymhorol, cawsiau lleol, wyau buarth, cig a dofednod brid prin â'i magwyd yn lleol, mêl lleol, bara artisan, cacennau a phastai cartref, gyda chynnyrch organig ardystiedig ac eitemau arbenigol gan gynnwys ystodau llysieuol, fegan a heb glwten. Gyda bwyd poeth ar gael yn rheolaidd ac ychydig o ddiodyd alcoholig i'ch temtio. Ceir ychydig o grefftwyr talentog hefyd. Mae planhigion, blodau, perlysiau a choed ffrwythau ar gael yn dymhorol.